Llythyr Cariad Dad
Fy
Mhlentyn
Efallai nad wyt ti yn fy adnabod i,
ond gwn i bopeth amdanat ti.
Salm 139:1
Gwn pa bryd y byddi yn eistedd i lawr
a pha bryd rwyt yn sefyll.
Salm 139:2
Rwyf
yn gyfarwydd â dy holl ffyrdd.
Salm 139:3
Mae
hyd yn oed pob blewyn o wallt dy ben wedi ei rifo.
Mathew 10:29-31
Oherwydd
fe'th wnaed ar fy nelw.
Genesis 1:27
Ynof
Fi rwyt yn byw ac yn symud ac yn cael dy fodolaeth.
Actau 17:28
Oherwydd
fy hiliogaeth i ydwyt.
Actau 17:28
Roeddwn
yn dy adnabod hyd
yn oed cyn iti gael dy feichiogi.
Jeremeia 1:4-5
Bu
i Mi dy ddewis pan gynlluniais y cread
Effesiaid 1:11-12
Nid
camgymeriad mohonot.
Salm 139:15-16
Oherwydd
mae dy holl ddyddiau
wedi eu hysgrifennu yn fy llyfr.
Salm 139:15-16
Bu
i Mi benderfynu union amser
dy enedigaeth a lle buasit yn byw.
Actau 17:26
Yn
ofnadwy a rhyfeddol y'th wnaed.
Salm 139:14
Bu
i Mi dy glymu wrth ei gilydd yng nghroth dy fam.
Salm 139:13
A
dyfod â thi allan ar y dydd y'th aned
Salm 71:6
Rwyf
wedi cael fy nghamddarlunio
gan y rheiny nad ydynt yn fy adnabod.
Ioan 8:41-44
Nid
wyf yn oeraidd a dig, ond yn fynegiant llwyr o gariad.
1 Ioan 4:16
A fy nymuniad yw pentyrru fy nghariad arnat.
1 Ioan 3:1
Yn
syml oherwydd dy fod yn blentyn
i Mi a Minnau yn Dad i ti.
1 Ioan 3:1
Rwyf yn cynnig mwy i ti na allai dy
dad daearol fyth fedru gwneud.
Mathew 7:11
Oherwydd rwyf Fi y Tad perffaith.
Mathew 5:48
Mae pob rhodd dda rwyt yn derbyn yn dod o fy llaw i.
Iago 1:17
Oherwydd Myfi yw dy ddarparwr a
rwyf yn cyfarfod â dy holl anghenion.
Mathew 6:31-33
Mae
fy nghynllun i dy ddyfodol
wastad wedi ei lenwi â gobaith.
Jeremeia 29:11
Oherwydd
rwyf yn dy garu â chariad tragwyddol.
Jeremeia 31:3
Mae
fy meddyliau tuag atat
mor ddi-rif â'r tywod ar lan y môr.
Salm 139:17-18
A
rwyf yn llawenhau drosot gyda chanu.
Seffaneia 3:17
Ni
wnaf fyth beidio â gwneud daioni i ti.
Jeremeia 32:40
Oherwydd
rwyt fy eiddo a drysorir.
Exodus 19:5
Gyda'm
holl galon â'm holl enaid
rwyf yn dymuno dy sefydlu.
Jeremeia 32:41
A rwyf eisiau dangos pethau mawr ac aruthrol i ti.
Jeremeia 33:3
Os
bydd iti fy ngheisio â'th holl galon,
bydd iti ddod o hyd imi.
Deuteronomium 4:29
Ymhyfryda
ynof Fi a bydd imi roi iti
ddymuniadau dy galon.
Salm 37:4
Oherwydd
Fi roddodd y dymuniadau hynny iti.
Philipiaid 2:13
Rwyf
yn abl i wneud mwy iti na fedri fyth ddychmygu.
Effesiaid 3:20
Oherwydd
Fi yw dy anogwr mwyaf.
2 Thesaloniaid 2:16-17
Fi hefyd yw y Tad sydd yn dy gysuro yn dy holl helbulon.
2 Corinthiaid 1:3-4
Pan
rwyt â'th galon wedi ei thorri,
rwyf yn agos atat.
Salm 34:18
Fel
bydd bugail yn cario oen,
rwyf wedi dy gario di yn agos at fy nghalon.
Eseia 40:11
Un dydd bydd imi sychu ymaith bob deigryn o dy lygaid.
Datguddiad 21:3-4
A
bydd imi gymryd ymaith yr holl boen rwyt
wedi ei ddioddef ar y ddaear yma.
Datguddiad 21:3-4
Myfi
yw dy Dad, a rwyf hyd yn oed yn
dy garu fel rwyf yn caru fy Mab, Iesu.
Ioan 17:23
Oherwydd
yn Iesu, caiff fy nghariad
tuag atat ei amlygu.
Ioan 17:26
Mae
Ef yr union gynrychiolaeth o fy mod.
Hebreaid 1:3
Daeth
i ddangos fy mod i drosot, nid yn dy erbyn.
Rhufeiniaid 8:31
Ac
i ddweud wrthyt nad wyf yn cyfrif dy bechodau.
2 Corinthiaid 5:18-19
Bu
i Iesu farw fel medri di a minnau gael ein cymodi.
2 Corinthiaid 5:18-19
Roedd ei farwolaeth y mynegiant
eithaf o fy nghariad tuag atat.
1 Ioan 4:10
Bu
imi roi popeth gerais fel medrwn ennill dy gariad di.
Rhufeiniaid 8:31-32
Os derbynni y rhodd o fy Mab Iesu,
rwyt yn fy nerbyn i
1 Ioan 2:23
Ac
ni wnaiff dim dy wahanu byth
eto oddi wrth fy nghariad i.
Rhufeiniaid 8:38-39
Tyrd
adref a bydd imi roi y parti
mwyaf welodd y Nefoedd erioed.
Luc 15:7
Rwyf
wastad wedi bod yn Dad,
a byddaf wastad yn Dad.
Effesiaid 3:14-15
Fy nghwestiwn yw
wnei di fod yn blentyn i Mi?
Ioan 1:12-13
Rwyf
yn aros amdanat.
Luc 15:11-32
Cariad, Dy Dad
Duw Hollalluog
Permission
To Copy:
Please feel free to copy this text and share it with your friends
as long as you do so free of charge and you include the following
copyright information... "Father's Love Letter Used By Permission
Father Heart Communications Copyright 1999-2008 www.FathersLoveLetter.comTranslated
by Gareth Huws.